Pam Dylech Chi Weithio i Ni

Mae Caerdydd ar Waith yn cynnig platfform ardderchog ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Trwy weithio gyda ni, bydd recriwtiaid yn cael manteisio ar amrywiaeth o fuddion sy’n mynd y tu hwnt i gyflog a chynllun pensiwn cystadleuol. Mae ymgeiswyr hefyd yn gallu datblygu set gyflawn o sgiliau gan gyflogwr sydd ag enw da, gan gael mewnwelediad gwerthfawr i’r diwydiant gweinyddol a chyfleoedd yn y Cyngor.

Mwy o Amrywiaeth a Gwella Cyflogadwyedd.

O Gyngor i Mewn i Waith i waith gyda’r dreth gyngor a gofal, mae Caerdydd ar waith yn cynnig amrywiaeth o gontractau byrdymor i roi cyfle i recriwtiaid gael profiad ar draws nifer o rolau gwahanol. Mae hyn yn golygu y gallant ddatblygu set ehangach o sgiliau mewn gweithle sy’n gwella eu cyflogadwyedd ac yn rhoi enghreifftiau o’r byd go iawn o’u galluoedd.

Llwybr i mewn i’r Cyngor.

Trwy gwblhau lleoliadau byrdymor, bydd ymgeiswyr yn gallu dangos bod ganddynt brofiad perthnasol o’r Cyngor. Yn ogystal, mae’r lleoliadau’n galluogi ymgeiswyr i ddysgu mwy am weithio i’r Cyngor a pha sgiliau sydd fwyaf perthnasol i bob rôl. Mae cyflogeion Caerdydd ar Waith hefyd yn gymwys i wneud cais am ddetholiad o swyddi mewnol yn y Cyngor, gan ehangu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i’n hymgeiswyr.

Y Cyfle i Weithio yn y Ddinas sy’n Tyfu Gyflymaf yn y DU.

Mae Caerdydd yn ddinas ddeinamig, amlddiwylliannol sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol, cerddorol a chwaraeon yn ogystal â’i pharciau, siopau a bwytai niferus. Mae gweithio gyda ni yn eich rhoi ynghanol y ddinas a, gyda’r gallu i fanteisio ar gynigion staff y Cyngor, gallwch gael profiad o rai o uchafbwyntiau’r ddinas am bris is.

Ymagwedd sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Mae ein sefydliad yn ceisio cefnogi ymgeiswyr trwy’r broses chwilio am swydd a rhoi’r cyfle iddynt ddod o hyd i’r rôl weinyddol a chlerigol sy’n addas iddynt. Fel asiantaeth, gallwn gynnig rhaglen hyblyg sy’n trin ein recriwtiaid fel unigolion ac yn ceisio eu paru â rolau sy’n addas i’w sgiliau, eu profiad a’u dyheadau.

 

Dim ond cipolwg yw hyn o sut y gall Caerdydd ar Waith helpu gyda’r daith i gael swydd gyda’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi ymgeiswyr o’r pwynt cofrestru drwodd i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt. Felly, ymunwch â Chaerdydd ar Waith a gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i’r rôl gywir yn y Cyngor i chi.

Astudiaeth Achos

Profiad Caerdydd Ar Waith Jake

Cafodd Jake ei ddiswyddo ac nid oedd yn gwybod ble i droi. Yn ffodus, gwnaeth gais am rôl dros dro drwy Caerdydd ar Waith. Bu’r tîm yn ei hyfforddi drwy’r broses o sicrhau gwaith, hyd yn oed pan gollodd lawer o obaith.

Profiad Caerdydd ar Waith Shakil

Daeth Shakil o hyd i sawl swydd amrywiol drwy Caerdydd ar Waith, pob un ohonynt yn rhoi’r offer a’r offer iddo a sgiliau i gymhwyso’n llwyddiannus ac ennill swydd barhaol gyda Chyngor Caerdydd.

Profiad Caerdydd Ar Waith Emily

Gadawodd Emily y coleg heb wybod o ddifrif pa sector yr oedd am weithio ynddo ond cafodd ei ffordd i mewn i Rôl Cymorth Busnes drwy rôl dros dro

Profiad Caerdydd Ar Waith Martin

Pan na lwyddodd Martin i sicrhau’r rôl gyntaf y gwnaeth gais amdani drwy Caerdydd ar Waith, cafodd ei annog gan aelod o’r tîm i roi cynnig arall.

Fy mhrofiad Caerdydd ar Waith

Mae Jennifer wedi bod yn gweithio i Gyngor Caerdydd ers 6 blynedd, ar ôl ymuno â Caerdydd ar Waith ar gyfer rôl dros dro yn 2016. Roedd proses Caerdydd ar Waith yn gyflym ac yn hawdd i Jennifer gan ei bod wedi gweithio i Gaerdydd ar Waith 10 mlynedd ynghynt, felly yn syml iawn, diweddarodd ei manylion a rhoi gwybod i’r tîm ei bod ar gael i weithio. Ym mis Ionawr 2016 ymunodd â thîm bach yng Nghanolfan Addysg Parc… View Article

Profiad Caerdydd Ar Waith Kate

Cwrdd â Kate, a ymunodd â Chaerdydd Ar Waith am leoliad 3 mis a naeth arwain at rôl barhaol.

Profiad Caerdydd Ar Waith Tom

Dewch i gwrdd â Tom, daeth drwy Caerdydd ar Waith i ddod o hyd i swydd y mae’n ei charu.

Diwrnod ym Mywyd Hyfforddai Cyngor i Mewn i Waith

Helo, Sam ydw i. Dw i newydd ddechrau gweithio fel Hyfforddai Cyngor i Mewn i Waith.