Cofrestru gyda ni

Yn barod i ddechrau adeiladu eich gyrfa yn y Cyngor?

Cam 2) Gwahoddiad i gael Asesiad

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn trefnu sesiwn yn electronig i chi gael eich asesu, sef archwilio eich sgiliau presennol mewn perthynas â dwy adran allweddol.

  • Ariannol/rhifiadol.
  • Sillafu a phrawf-ddarllen.

Os byddwch yn llwyddo ym mhob un o’r asesiadau byddwch yn symud ymlaen i’r cam nesaf.

Cam 3) Cyfweliad Anffurfiol

Mae’r cam hwn yn ein helpu i ddysgu mwy amdanoch chi a’ch dewisiadau gwaith (fel ymrwymiadau presennol, oriau gwaith neu fath o rôl). Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob rôl a gynigir yn addas ac yn bodloni eich gofynion.

Cam 4) Cofrestru

Yn dilyn y cyfweliad anffurfiol, cewch eich ychwanegu at ein systemau a’ch cynnwys yng nghronfa dalent Caerdydd ar Waith. Yna byddwn yn cysylltu â chi gydag unrhyw gyfleoedd priodol wrth iddynt godi.