Paratoi Caerdydd at Waith

Mae Paratoi Caerdydd at Waith yn brosiect cyflogadwyedd newydd a grëwyd i’ch helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith wrth gofrestru gyda Chaerdydd ar Waith.

Ein nod yw eich helpu i ennill sgiliau a magu hyder mewn gweithle.

Bydd y prosiect ar gael i unrhyw un sy’n chwilio am waith gweinyddol/clercaidd dros dro yng Nghyngor Caerdydd.

 

Pwy all gofrestru?

Gallwch gofrestru os na lwyddoch i basio asesiad Caerdydd ar Waith yn y gorffennol neu os ydych am wella eich sgiliau cyn cysylltu â Chaerdydd ar Waith.

Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi ymgeiswyr heb gynrychiolaeth ddigonol drwy gysylltu’r gwasanaeth yn agos â’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith a sefydliadau cymunedol.

Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i drafod eich amgylchiadau a’ch dyheadau presennol. Ar ôl y sgwrs byddwn yn eich helpu drwy deilwra’r canlynol yn unigol:

  • Mentora,
  • Hyfforddiant,
  • Cyfleoedd gwirfoddoli,
  • Gwaith dros dro drwy Gaerdydd ar Waith

 

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru ar gyfer prosiect Paratoi Caerdydd at Waith drwy:

  • Gael eich atgyfeirio gan eich mentor i Mewn i Waith,
  • Cofrestru ar-lein.

Cewch eich gwahodd yn awtomatig i gwrdd â’r tîm os na lwyddoch i basio asesiad Caerdydd ar Waith yn y gorffennol.

    Cofrestru eich diddordeb gyda Paratoi Caerdydd at Waith.

    Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.