Swyddi Gwag
Pan fydd cyfleoedd newydd yn codi, byddwn yn defnyddio eich profiad a’ch dewisiadau, a gaiff eu trafod mewn cyfweliad anffurfiol, i’ch cyflwyno chi ar gyfer rolau a threfnu cyfweliadau.
Mae ein swyddi’n cynnwys gwaith gweinyddol yn bennaf ac yn amrywio o waith canolfan alwadau sy’n helpu unigolion i gael mynediad at wasanaethau’r Cyngor i rolau cymorth swyddfa gefn sy’n trin data. Er bod pob swydd yn un dros dro, maen nhw’n cynnig cyfle gwych i gael profiad gwaith gyda’r Cyngor.
Gan ein bod ni ar gael i bob un o adrannau’r Cyngor, gallwn weld cyfleoedd newydd a chyffrous yn codi ym meysydd;
Datblygu Economaidd,
Addysg a Dysgu Gydol Oes,
Tai a Chymunedau,
Cynllunio,
Trafnidiaeth a’r Amgylchedd,
& Adnoddau.
Rheolwr Prosiect: EURO 2028 UEFA – Arweinydd Prosiect y Ddinas Groeso
Cyflog: tua £65,000 – £80,000
Tymor: Disgwylir i’r rôl gefnogi Cyngor Caerdydd gyda’r gwaith o baratoi a chyflwyno UEFA EURO 2028, yn ogystal ag ar ôl y digwyddiad
Mae Caerdydd yn paratoi i groesawu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd wrth i EURO 2028 UEFA lansio yn y ddinas. Yn ogystal â chynnal y gêm agoriadol, bydd Caerdydd yn cynnal pum gêm arall, gan groesawu cannoedd o filoedd o gefnogwyr ac arddangos y ddinas i gynulleidfa o filiynau ledled y byd.
Er mwyn cyflawni ei ymrwymiadau yng Nghytundeb y Ddinas Groeso, mae Cyngor Caerdydd yn adeiladu tîm ymroddedig i gynnal y digwyddiad o’r radd flaenaf hwn. Rydym yn chwilio am Arweinydd Prosiect Dinas Groeso eithriadol i oruchwylio’r gwaith cynllunio strategol a chyflwyno EURO 2028 UEFA, a chydlynu gweithgarwch y ddinas groeso trwy gydol y digwyddiad. Bydd y swydd hefyd yn gyfrifol am arwain tîm prosiect Dinas Groeso.
Mae EURO 2028 UEFA yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gaerdydd a Chymru. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i chwarae rhan flaenllaw wrth gyflwyno digwyddiad chwaraeon rhyngwladol mawr mewn dinas sydd ag enw da am gynnal cystadlaethau byd-eang.
EURO 28 – Project Lead JD PS_cy-GB
Bydd gennych hanes â thystiolaeth o arwain digwyddiadau chwaraeon mawr a rheoli rhaglenni cymhleth sy’n cynnwys timau amlddisgyblaethol, cyllidebau sylweddol a rhanddeiliaid lluosog. Bydd cyfraddau cystadleuol yn cael eu cynnig, gyda thelerau i’w trafod gan ddibynnu ar brofiad.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, cysylltwch â Ruth Cayford neu Jonathan Day trwy e-bostio rcayford@caerdydd.gov.uk neu jday@caerdydd.gov.uk am ragor o fanylion.
Dyddiad cau: 08.05.26
Cydlynydd Prosiect: EURO 2028
Cyflog: tua £28,000 – £32,000
Mae Caerdydd yn falch o gynnal gêm agoriadol a phum gêm arall EURO 2028 UEFA, gan groesawu cannoedd o filoedd o gefnogwyr ac arddangos y gorau oll sydd gan ein prifddinas i’w gynnig i gynulleidfa fyd-eang. Er mwyn helpu i gyflwyno digwyddiad ar y raddfa hon, mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i ddarparu cymorth gweinyddol, trefniadol ac ysgrifenyddol o ansawdd uchel i’r Arweinydd Prosiect a’r tîm cyflawni ehangach.
Mae’r rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau rhediad didrafferth gweithgareddau prosiect o ddydd i ddydd, cefnogi cyfathrebu ar draws ffrydiau gwaith, cydlynu dogfennaeth a chyfarfodydd, a helpu i gynnal llywodraethu effeithiol a rheolaethau prosiectau.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, cysylltwch â Ruth Cayford neu Jonathan Day trwy e-bostio rcayford@caerdydd.gov.uk neu jday@caerdydd.gov.uk am ragor o fanylion.
Dyddiad cau: 08.05.26
I gael rhagor o wybodaeth am swyddi gyda’r Cyngor a’n partneriaid, ewch i Caerdydd.gov.uk