Diwrnod ym Mywyd Hyfforddai Cyngor i Mewn i Waith

Helo, Sam ydw i. Dw i newydd ddechrau gweithio fel Hyfforddai Cyngor i Mewn i Waith. Fel arfer dw i’n gweithio yn y Clwb Swyddi yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, ond weithiau bydd gen i shifftiau mewn Hybiau eraill o gwmpas Caerdydd. Mae fy oriau’n amrywio o 9-5 neu 10-6 gydag ambell shifft hwyr o 11-7 ar ddydd Iau. Does dim dau ddiwrnod yr un peth yma, mae bob amser cleientiaid newydd y mae angen cymorth unigryw arnyn nhw, sy’n peri i’m swydd fod yn ddiddorol iawn.

Bob bore bydda’ i’n dechrau trwy roi trefn ar y cyfrifiaduron cyn i’r gwasanaeth agor. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod digon o ffurflenni cofrestru yn barod i fynd, felly rydyn ni’n eu cael nhw wedi’u llungopïo a’u hargraffu ben y bore.

Wrth i gleientiaid ddechrau cyrraedd, dw i a’r tîm yn cyfarfod â nhw ac yn eu helpu gydag ymholiadau fel chwilio am swydd a’u helpu i wneud cais. Drwy gydol y dydd bydda’ i’n helpu cleientiaid i gael mynediad at eu cyfrifon chwlio am swydd a’u he-byst, gan eu haddysgu sut i ddefnyddio’r offer hyn. Weithiau gofynnir i mi roi adborth i gleientiaid ar eu CV, neu eu helpu i greu un newydd. I wneud hyn bydda’ i’n gweithio gyda nhw i lenwi ffurflen sy’n cynnwys gwybodaeth fel eu hanes swyddi a’u dyheadau cyflogaeth. Wedyn bydda i’n defnyddio hyn i ysgrifennu CV newydd iddyn nhw.

Mae gweithio’n agos i ganol y ddinas yn golygu y galla’ i bigo allan yn rhwydd i siopau a chaffis lleol i gael cinio. Dw i’n cael hanner awr o egwyl amser cinio a dwy egwyl deg munud pob shifft. Fel tîm rydyn ni’n sicrhau y gallwn ni i gyd fynd am hoe heb adael y gwasanaeth yn brin o staff.

Ar ôl cinio, af i yn ôl i’r gwaith a pharhau i helpu ein cleientiaid. Efallai y gofynnir i mi helpu cleientiaid i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ffurf newydd ar fudd-dal sy’n cyfuno chwe math o fudd-dal gwahanol yn un taliad misol. Bydda’ i’n eu helpu i lenwi’r ffurflen gais a’u cefnogi i drefnu eu hapwyntiad cychwynnol. Mae’r Clwb Swyddi hefyd yn cynnwys helpu cleientiaid i reoli eu cyfrifon Credyd Cynhwysol trwy fewngofnodi a’u helpu i ddatgan newidiadau mewn amgylchiadau neu adael negeseuon i’w hyfforddwyr gwaith. Gallwn hefyd helpu trwy lungopïo a sganio dogfennau i gleientiaid a’u helpu i’w lanlwytho a’u he-bostio yn ôl y gofyn.

Mae gan hyfforddeion ac ymgynghorwyr i Mewn i Waith gysylltiadau cryf â’r projectau cyflogadwyedd a gynhelir yn yr adran felly bydda’ i weithiau’n esbonio am y projectau i gleientiaid sydd â diddordeb. Wedyn bydda’ i’n llenwi ffurflenni atgyfeirio ar gyfer y projectau hyn, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn gyflawn cyn cael ei chyflwyno i’r unigolyn perthnasol. Yn ogystal â chyfrifoldebau ymdrin â chwsmeriaid, dw i hefyd yn rheoli’r gwaith gweinyddol trwy ddiweddaru cronfa ddata’r adran gyda gwybodaeth o’r ffurflenni mewngofnodi a lenwir gan gleientiaid pan fyddan nhw’n defnyddio’r gwasanaeth.

Os bydda’ i’n gweithio’r shifft hwyr, bydda’ i’n cael awr olaf y dydd ar fy mhen fy hun i roi trefn ar unrhyw waith gweinyddol y mae angen ei wneud a helpu cleientiaid nes i’r gwasanaeth gau. Wedyn bydda’ i’n cau’r cyfrifiaduron a’r argraffwyr a pharatoi’r ystafell at y diwrnod canlynol, cyn diffodd y goleuadau, cau’r drws ac allgofnodi a mynd adref.

Mae fy rôl fel Hyfforddai Cyngor i Mewn i Waith wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gwaith tîm ardderchog ac mae hefyd wedi fy helpu i ddysgu i weithio yn ôl fy menter a’m gallu fy hun. Mae fy hyder wedi tyfu cymaint yn y swydd a dw i’n teimlo fy mod i’n tyfu yn agosach at gyflawni fy nodau o ran fy ngyrfa.  

Tags: ,
Cofrestru gyda ni