Profiad Caerdydd Ar Waith Martin

Pan na lwyddodd Martin Kayongo i sicrhau’r rôl gyntaf y gwnaeth gais amdani drwy Caerdydd ar Waith, cafodd ei annog gan aelod o’r tîm recriwtio i roi cynnig arall arni a chafodd swydd werth chweil a arweiniodd at sawl dyrchafiad.

Ar ôl cofrestru gyda’r asiantaeth roedd rhaid i Martin gwblhau asesiad 3 rhan. Iddo ef roedd yr asesiadau’n syml ac nid oedd angen iddo aros yn hir i’w gwneud. Helpodd hynny i leihau ei bryder. Fe’i gwahoddwyd ar unwaith am gyfweliad gyda’r Tîm Cyngor Ariannol ar gyfer swydd gradd 3, ond ni fu’n llwyddiannus. Fodd bynnag, gwahoddodd Caerdydd ar Waith Martin am gyfle arall i gael cyfweliad swydd gradd 4 gyda’r adran I Mewn i Waith. Cafodd lwyddiant a dim ond dechrau ei yrfa gyda Chyngor Caerdydd oedd hyn.

“Rydw i wedi llwyddo i gael dyrchafiadau drwy sawl cyfweliad. Rwyf bellach yn gweithio gyda’r Cyngor fel Cydlynydd Cynorthwyol gradd 7.”

Mae Martin wedi gallu defnyddio gwasanaeth Caerdydd ar Waith i recriwtio staff ar gyfer y prosiectau y mae’n eu cydlynu felly mae’n adnabod y gwasanaeth o’r ddwy ochr, fel rhywun sy’n chwilio am waith a rhywun sy’n recriwtio pobl newydd.

“Mae fy ngyrfa wedi ffynnu oherwydd Caerdydd ar Waith. Pe na bai swyddog Caerdydd ar Waith wedi fy ysgogi i roi cynnig arall arni, ni fyddwn wedi gwneud cais am unrhyw swydd arall yn y Cyngor drwy’r sianeli arferol.”

Mae bellach wedi argymell bod dros 10 o gyfranogwyr, gyda 6 ohonynt yn llwyddo i sicrhau swyddi gyda’r Cyngor.

Tags:
Cofrestru gyda ni