Fy mhrofiad Caerdydd ar Waith

Mae Jennifer wedi bod yn gweithio i Gyngor Caerdydd ers 6 blynedd, ar ôl ymuno â Caerdydd ar Waith ar gyfer rôl dros dro yn 2016.

Roedd proses Caerdydd ar Waith yn gyflym ac yn hawdd i Jennifer gan ei bod wedi gweithio i Gaerdydd ar Waith 10 mlynedd ynghynt, felly yn syml iawn, diweddarodd ei manylion a rhoi gwybod i’r tîm ei bod ar gael i weithio.

Ym mis Ionawr 2016 ymunodd â thîm bach yng Nghanolfan Addysg Parc Bute (y Ganolfan Ymwelwyr erbyn hyn) a chael ei chyfweld yn llwyddiannus am ei rôl llawn amser yn 2018.

“Roeddwn i’n teimlo’n lwcus iawn bod Caerdydd ar Waith wedi ystyried fy niddordebau, fy sgiliau a’m profiad wrth ddod o hyd i fy lleoliad gwaith. Cefais gynnig cyfweliad am swydd wych mewn tîm gwych ar ôl dim ond ychydig wythnosau o gofrestru.”

“Roeddwn wedi cyffroi i ddechrau swydd oedd yn cynnig cyfle i mi ehangu fy mhrofiad a’m sgiliau ym myd Digwyddiadau a Chyfathrebu. Mae hwn yn gweddu’n wirioneddol i’m sgiliau – er i mi fod yn barod i dderbyn swydd weinyddu gyffredinol dros dro wrth chwilio am swydd (sef yr hyn a dybiais pan gofrestrais).”

Roedd Jennifer wedi gweithio i un o dimau’r Cyngor dros dro yn ôl yn 2006, y tro cyntaf iddi gofrestru ar gyfer Caerdydd ar Waith.

“Fe wnes i fwynhau’r rôl honno hefyd. Rhoddodd gipolwg i mi ar weithio i’r Cyngor, rhai sgiliau gweinyddu ymarferol ac roedd yn hwb gwirioneddol i’m CV ar ôl graddio o’r Brifysgol a chyn cofrestru i wneud fy Ngradd Meistr yn UWIC.”

Cyn cymryd y swydd gyda Caerdydd ar Waith roedd Jennifer yn hunangyflogedig ac yn chwilio am oriau mwy rheolaidd a gwyliau â thâl.

“Rwy’n aml yn argymell Caerdydd ar Waith i ffrindiau yn ogystal â’n gwirfoddolwyr ym Mharc Bute sy’n chwilio am waith. Mae’n droed wych yn y drws i swydd y byddwch chi’n ei charu neu rolau eraill gyda Chyngor Caerdydd.”

Tags:
Cofrestru gyda ni