Profiad Caerdydd Ar Waith Kate

Pan symudodd Kate i Gaerdydd ac roedd yn chwilio am waith, gwnaeth gais am leoliad 3 mis gyda Caerdydd ar Waith. Arweiniodd hynny at rôl 2 flynedd ac yna i swydd barhaol lle mae Kate bellach yn gweithio mewn swydd y mae’n dweud sy’n hanfodol.

“Dywedodd ffrind wrthyf am Caerdydd ar Waith pan symudais i Gaerdydd am y tro cyntaf gan eu bod hwythau hefyd wedi mynd drwy’r broses ac rwyf mor falch eu bod wedi gwneud hynny. Gall fod yn anodd symud i ardal newydd a chwilio am waith, a pheidio â gwybod ble i ddechrau, fodd bynnag, gyda chymorth Caerdydd ar Waith, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith. Esboniwyd y broses ymgeisio’n glir ac roedd yr holl staff yn gyfeillgar ac yn awyddus i helpu gydag unrhyw gwestiynau oedd gennyf (roedd cryn dipyn)!”

Anfonwyd manylion at Kate am rôl cymorth busnes o fewn y Tîm Diogelu Addysg a gwnaeth gais am honno i ddechrau.

“Roedd y swydd-ddisgrifiad yn apelio ac yn rhywbeth yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo.  Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad a chyn bo hir dechreuais gyda’r tîm yn Neuadd y Sir.  Fe’i hysbysebwyd i ddechrau fel lleoliad 3 mis gyda chyfle iddo gael ei ymestyn.  Roeddwn i’n falch pan gafodd ei ymestyn ac roeddwn yn y swydd am 2 flynedd!”

Yna, cododd swydd wag yn 2019 ar gyfer swydd Swyddog Diogelu Addysg a thrwy’r hyder a’r profiad yr oedd wedi’u hennill o fod yn y tîm, gwthiodd Kate ei hun i wneud cais am y rôl barhaol. 

“Rwy’n falch iawn o ddweud fy mod wedi bod yn llwyddiannus ac wedi bod yn y swydd byth ers hynny.  Rwyf wedi dysgu cymaint o bethau ers bod yn y tîm ac rwy’n teimlo fy mod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ddiogelu ar draws Addysg yng Nghaerdydd.”

Mae Kate eisoes wedi argymell Caerdydd ar Waith i ffrindiau ac yn dweud y bydd yn parhau i wneud hynny gan ei fod yn wasanaeth gwych.

“Oni bai am Caerdydd ar Waith, fyddwn i ddim lle ydw i heddiw ac am hynny rwy’n ddiolchgar iawn. Pe na baent wedi anfon y cais am swydd gychwynnol ataf, ni fyddwn yma nawr.”

Tags:
Cofrestru gyda ni