Profiad Caerdydd Ar Waith Tom

Dewch i gwrdd â Tom, daeth drwy Caerdydd ar Waith i ddod o hyd i swydd y mae’n ei charu.

Cofrestrodd Tom drwy’r wefan ac yna fe’i gwahoddwyd i gymryd prawf sgiliau syml mewn gwasanaeth cwsmeriaid, rhifedd a llythrennedd.

Meddai, “Roedd y staff yn hynod groesawgar mewn amgylchedd hamddenol.  O fewn ychydig ddyddiau, cefais wahoddiadau i gyfweliadau ar gyfer nifer o rolau ar draws y Cyngor.”

Y rôl dros dro gyntaf a sicrhaodd oedd un weinyddol o fewn yr adran rheoli gwastraff.

“Des i’n rhan o dîm cymorth busnes gwych yn delio â cheisiadau a chwynion gan breswylwyr. Roedd yr hyder a enillais drwy’r rôl 6 mis hon yn caniatáu i mi wneud cais am swydd gradd uwch yn yr Adran Addysg, a’i sicrhau wedyn. Rwyf wedi gallu defnyddio’r cysylltiadau proffesiynol a wnes i yn yr adran rheoli gwastraff yn fy rôl bresennol, gan wella cysylltiadau trawsadrannol.”

Roedd lleoliad Tom drwy Caerdydd ar Waith yn berffaith iddo gan iddo gael ei groesawu i dîm newydd ac yn y pen draw cafodd gyflogaeth lawn amser a pharhaol gyda Chyngor Caerdydd.

“Byddwn yn bendant yn argymell Caerdydd ar Waith i bobl agored eu meddwl sy’n chwilio am amgylchedd proffesiynol, heriol a hwyliog i weithio ynddo.”

Cardiff Works Tom | Caerdydd ar Waith Tom – YouTube

Tags: ,
Cofrestru gyda ni