Gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy

Mae’n amhosibl gwybod yn union am beth mae cyflogwr posibl yn chwilio a hyd yn oed gyda’r CV mwyaf proffesiynol, ni allwch reoli a gewch eich gwahodd i gael cyfweliad neu beidio, neu os cewch eich gwahodd, a fyddwch yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwch gynyddu eich cyflogadwyedd a gwneud eich hun yn amlwg yn ystod y broses ymgeisio.

Gwirfoddolwch

Mae llawer o sefydliadau’n cynnig lleoliadau gwirfoddoli gan gynnwys grwpiau o Sgowtiaid, Llyfrgelloedd ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn ogystal â siopau elusennol lleol. Mae cyfleoedd fel hyn yn rhoi profiad, gwybodaeth a’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gwella eich CV a rhoi enghreifftiau allweddol i’w defnyddio yn ystod cyfweliadau. Mae rhoi o’ch amser rhydd i wirfoddoli yn dangos ymrwymiad i weithio ac yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o rolau i’ch helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych yn ei fwynhau.   

Uwchsgiliwch

Mae ychwanegu cymwysterau a hyfforddiant ychwanegol i’ch CV nid yn unig yn ehangu eich set o wybodaeth, mae hefyd yn dangos i gyflogwyr posibl eich bod yn benderfynol, yn drefnus ac yn gwneud y gorau o’ch amser. Mae nifer o sefydliadau’n cynnig hyfforddiant hygyrch a hyblyg, gan gynnwys cyrsiau dydd a deuddydd yn ogystal â dosbarthiadau nos. Yn ogystal, mae’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn eich galluogi i bersonoli a theilwra eich profiad, gan wella eich cyflogadwyedd mewn ffordd fwy ffocysedig. Gall cyrsiau hyfforddi fod yn gyfle gwych i gael set eang o sgiliau, sy’n gosod sylfaen gref ar gyfer cymryd y camau nesaf tuag at gyflogaeth.

Sicrhewch fod eich angerdd yn fwy cynhyrchiol byth

Yn hytrach na rhestru hobïau yn eich CV, ceisiwch feddwl am sut y gallwch chi ddefnyddio’r diddordebau hyn mewn ffordd fwy adeiladol. Er enghraifft, yn lle datgan eich bod yn mwynhau darllen a/neu ysgrifennu, ystyriwch ddechrau blog ar-lein ac ysgrifennu’r ddolen yn eich CV. Mae hyn yn amlygu eich sgiliau cyfathrebu a dadansoddi ysgrifenedig. Mae defnyddio eich angerdd mewn ffordd adeiladol yn adeiladu enghreifftiau diddorol sy’n dangos eich personoliaeth a’ch sgiliau trosglwyddadwy.

Ewch i ddigwyddiadau cyflogaeth a ffeiriau swyddi

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â chyflogwyr lleol yn bersonol a thrafod eich profiad a’ch sgiliau wyneb yn wyneb. Trwy hyn rydych chi hefyd yn gallu dysgu mwy am beth mae’r rolau gwahanol yn ei gynnwys, yn ogystal â chael eich cyflwyno o bosibl i rolau newydd nad oeddech wedi’u hystyried o’r blaen. Rydych hefyd yn gallu gofyn cwestiynau am y broses recriwtio, fel a oes angen CV a pha sgiliau a phrofiad maent yn chwilio amdanynt yn benodol.

Ymarferwch eich techneg cyfweliadau

Gofynnwch i rywun rydych yn ymddiried ynddo ymchwilio i gwestiynau cyfweliad perthnasol a chynnal cyfweliad ffug. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer adnabod meysydd gwella heb yr ofn o beidio â sicrhau’r swydd ac mae’n rhoi cyfle i chi greu ymateb gwell. Yn yr un modd, os byddwch yn sylwi ar unrhyw fylchau o ran sgiliau neu wybodaeth gallwch fod yn rhagweithiol a chanolbwyntio ar ddatblygu enghreifftiau i oresgyn hyn.

Cofrestru gyda ni