Dod o hyd i’ch Swydd Nesaf

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth ond yn ansicr sut i ddechrau arni? Yn ansicr o ran sut i ddod o hyd i swyddi perthnasol a gwneud cais amdanynt? Efallai eich bod chi eisiau gwneud rhywfaint o hyfforddiant i roi hwb i’ch CV. Beth bynnag yw eich ymholiad; mae Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yma i’ch cefnogi chi ar eich taith tuag at gyflogaeth.

Clwb Swyddi

Wedi’i leoli mewn Hybiau o gwmpas Caerdydd, mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn darparu gwasanaeth galw heibio o’r enw Clwb Swyddi sydd wedi’i ymroi i gefnogi’r rhai sydd eisiau dechrau neu newid eu gwaith er mwyn cyflawni eu nodau o ran gyrfa. O baratoi CVs i gymorth gyda gwneud cais am swydd a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi, mae tîm y Clwb Swyddi yn rhoi cymorth ar draws pob maes o’r broses chwilio am swydd gan gynnwys:

  • Ysgrifennu, diweddaru ac argraffu CVs
  • Sefydlu cyfrifon chwilio am swydd a hysbysiadau e-bost
  • Cyfeirio at ddigwyddiadau cyflogaeth a ffeiriau swyddi lleol
  • Gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi ledled Caerdydd
  • Cymorth gyda phrawf-ddarllen a golygu ceisiadau’n gyffredinol
  • Rhoi cyngor ar lenwi ffurflenni cais
  • Rhoi cymorth digidol gyda llenwi ceisiadau ar-lein
  • Sganio dogfennau i e-byst cleientiaid a’u helpu i’w hanfon ymlaen at gyflogwyr yn ôl y gofyn
  • Cyfeirio unigolion at y project cyflogadwyedd perthnasol

Projectau Cyflogadwyedd

Yn ogystal â rhoi cymorth mewnol, mae’r Tîm i Mewn i Waith hefyd yn cynnig amrywiaeth o brojectau cyflogadwyedd sy’n cynnig cymorth strwythuredig yn fwy rheolaidd. Nod yr amrywiaeth o brojectau rydym yn eu cynnig yw rhoi cymorth cyflogaeth i gymaint o unigolion â phosibl; sy’n ymwneud ag amrywiaeth o oedrannau a statws cyflogaeth gan gynnwys pobl ddi-waith hirdymor a byrdymor, pobl sy’n gadael gofal a’r rhai sy’n economaidd anweithgar.

Mae cofrestru ar gyfer y rhaglenni hyn yn rhoi ymagwedd wedi’i deilwra’n fwy i unigolion, â’r nod o helpu’r cyfranogwyr i gael cyflogaeth gynaliadwy yn y sector o’u dewis. Gall y projectau hefyd helpu i gael cyfleoedd hyfforddi a’u hariannu, a darparu mentora un-i-un er mwyn datblygu sgiliau mwy meddal fel magu hyder a thechnegau cyfweliadau.

Cofrestru gyda ni