Swyddog Olrhain Cysylltiadau

 

Mae cyfle cyffrous ar gael i weithio yn y tîm sy’n cyflwyno’r ymateb cenedlaethol i bandemig COVID-19 ar ran rhanbarth Caerdydd a’r Fro.  Wrth i ni symud o drefniadau cyfyngiadau symud llym i gam nesaf y cynllun yng Nghymru, bydd angen cynnal system olrhain a phrofi cynhwysfawr o bobl â symptomau posibl. Unwaith y byddant wedi’u nodi, bydd gofyn i dîm o Ymgynghorwyr Cysylltiadau gynnig cyngor unigol wedi’i deilwra am hunan-ynysu i’r unigolion hynny ac unrhyw un y maent wedi dod i gysylltiad ag ef.

 

Manylion Swydd

Bydd eich rôl yn cynnwys bod yn gyfrifol bob dydd am adolygu rhestrau o gysylltiadau a roddir gan dimau Rhanbarthol/ffynonellau eraill.  Cynnal cyfweliadau achos gydag unigolion sydd eisoes wedi’u nodi’n rhai sydd â symptomau a/neu y cadarnhawyd bod Covid -19 ganddynt. Cynnal asesiad risg iechyd y cyhoedd cychwynnol o achosion Covid-19 y nodwyd bod angen olrhain cysylltiadau ar eu cyfer yn unol â’r protocol olrhain a rheoli cysylltiadau a phrotocolau neu ganllawiau pellach fel y nodwyd. Penderfynu a yw’r cysylltiadau’n rhai risg uchel neu isel a dyrannu galwadau i ymgynghorwyr cysylltiadau.  Rheoli cysylltiadau/galwadau cymhleth sydd wedi’u huwchgyfeirio gan yr ymgynghorwyr cysylltiadau

Byddai profiad o roi cyngor sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, gofal iechyd arall neu wasanaethau cwsmeriaid yn uniongyrchol i aelodau o’r cyhoedd a gwybodaeth am egwyddorion diogelu iechyd yn ogystal â phrofiad o reoli risg ac adrodd cysylltiedig o fantais ond nid yw’n hanfodol.. Mae dull trefnus o reoli achosion drwy nodi cysylltiadau yn hanfodol.

 

Mae’r gallu i ddatrys problemau wrth weithio mewn amgylchedd na ellir ei ragweld, yn aml dan bwysau ac o fewn amserlenni tynn yn hanfodol.

 

Mae profiad o weithio mewn canolfan alwadau’n hanfodol.

 

Er y gallai fod angen mynd i ganolfan alwadau am gyfnod hyfforddi, rhagwelir y bydd Rheolwyr Tîm yn gweithio gartref gan ddefnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu ag aelodau’r tîm yn unigol ac mewn grwpiau, rhannu dogfennau ac ati.

 

Bydd sifftiau ar sail rota o 8am i 8pm, 7 diwrnod yr wythnos.

Darperir hyfforddiant llawn ynghyd â goruchwyliaeth.

 

Mae hon yn swydd gradd 7 (14.91 yr awr).

Bydd ymgeiswyr amser llawn yn cael eu blaenoriaethu.

Mae’r pandemig yn rhywbeth sy’n digwydd unwaith mewn oes ac mae’r rôl hon yn rhoi’r cyfle i fod wrth wraidd ymateb iechyd y cyhoedd.

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio’n raddol, bydd angen i bob un ohonom gymryd camau i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau er mwyn cyfyngu’n llwyddiannus ar ledaeniad y clefyd. Bydd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithredu am 12 mis o bosibl, nes y caiff brechlyn ei ddatblygu. Bydd angen i bob un ohonom gymryd camau i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau er mwyn cyfyngu’n llwyddiannus ar ledaeniad y clefyd.

Os hoffech wneud cais, anfonwch Ffurflen Gais Caerdydd ar Waith wedi’i chwblhau, CV wedi’i ddiweddaru a thystiolaeth o’ch Hawl i Waith yn y DU i CaerdyddarWaith@caerdydd.gov.uk gyda’r teitl ‘Cais – Ymgynghorydd Cysylltiadau’.

4.C.352 – Cardiff Works Application Form Updated Version GDPR

Right_to_Work_Checklist

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.  Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, sef y rhai;

  • Dan 25 oed
  • Nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • O’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig a LHDTh+ Caerdydd
  • Sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg.