Paratoi Caerdydd at Waith
Mae Paratoi Caerdydd at Waith yn brosiect cyflogadwyedd newydd a grëwyd i’ch helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith wrth gofrestru gyda Chaerdydd ar Waith.
Ein nod yw eich helpu i ennill sgiliau a magu hyder mewn gweithle.
Bydd y prosiect ar gael i unrhyw un sy’n chwilio am waith gweinyddol/clercaidd dros dro yng Nghyngor Caerdydd.
Pwy all gofrestru?
Gallwch gofrestru os na lwyddoch i basio asesiad Caerdydd ar Waith yn y gorffennol neu os ydych am wella eich sgiliau cyn cysylltu â Chaerdydd ar Waith.
Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi ymgeiswyr heb gynrychiolaeth ddigonol drwy gysylltu’r gwasanaeth yn agos â’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith a sefydliadau cymunedol.
Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi i drafod eich amgylchiadau a’ch dyheadau presennol. Ar ôl y sgwrs byddwn yn eich helpu drwy deilwra’r canlynol yn unigol:
- Mentora,
- Hyfforddiant,
- Cyfleoedd gwirfoddoli,
- Gwaith dros dro drwy Gaerdydd ar Waith
Sut i gofrestru
Gallwch gofrestru ar gyfer prosiect Paratoi Caerdydd at Waith drwy:
- Gael eich atgyfeirio gan eich mentor i Mewn i Waith,
- Cofrestru ar-lein.
Cewch eich gwahodd yn awtomatig i gwrdd â’r tîm os na lwyddoch i basio asesiad Caerdydd ar Waith yn y gorffennol.