Ymgynghorydd Dyledion
Mae gan Caerdydd ar Waith gyfle newydd cyffrous i ddod yn Ymgynghorydd Dyledion gyda’n Tîm Cyngor Ariannol wedi’i leoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person – Ymgynghorydd Dyledion
Ffurflen Gais – Ffurflen Gais
Sylwer, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y swydd wag hon rhaid i chi gael eich ardystio gan IMA (Sefydliad yr Ymgynghorwyr Ariannol) a bod â phrofiad o ddarparu cyngor ar ddyledion.
I wneud cais, mae angen ffurflen gais Caerdydd ar Waith wedi’i chwblhau arnom a CV cyfredol wedi’i anfon i CaerdyddarWaith@caerdydd.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â ni yn caerdyddarwaith@caerdydd.gov.uk.
Caiff y CVs eu didoli, a bydd unrhyw un sy’n llwyddiannus ar y cam hwnnw’n cael ei wahodd i gyfweliad â’r Tîm Cyngor Ariannol dros Microsoft Teams.