Gofalwr Cartref
Mae cyfle newydd cyffrous ar gael yn gweithio fel Gofalwr Cartref.
Nid oes angen unrhyw brofiad, byddwch yn cael hyfforddiant llawn a chymorth parhaus.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Dros 18 oed
- Gallu gweithio amrywiaeth o shifftiau, dyddiau’r wythnos, gyda’r nos ac ar benwythnosau mewn shifftiau sy’n amrywio o 7am tan 10pm
- Rhaid bod yn barod i deithio ledled y ddinas ar sail sifft (croeso i’r rhai nad ydynt yn yrwyr).
Bydd y rôl yn cynnwys:
- gofal personol,
- paratoi prydau,
- cymorth gyda phob agwedd ar fywyd bob dydd
Darllenwch y Disgrifiad Swydd cyn gwneud cais am y rôl hon.
I wneud cais, cwblhewch ffurflen gais a’r Ffurflen Gwybodaeth Ategol a’u hanfon dros e-bost i caerdyddarwaith@caerdydd.gov.uk â’r pennawd ‘Cais Gweithiwr Gofal Cartref’.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 02920 871071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk.
Byddwn yn adolygu’r ceisiadau a’r llythyrau eglurhaol, ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad dros Microsoft Teams.
Gofalwr Cartref
Swydd Gradd 4 - £10.21 yr awr ynghyd â lwfans teithio a milltiredd 25 awr yr wythnos – Shifftiau sefydlog bob wythnos.Cofrestru gyda ni