Amdanom ni

Mae Caerdydd ar Waith yn cynnig swyddi dros dro cyffrous gyda Chyngor Caerdydd.

Cynigir cyfleoedd cyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau sy’n adlewyrchu’r nifer helaeth o rolau sydd gan y Cyngor. Mae Cyngor Caerdydd yn gyflogwr cyflog byw gwirfoddol a chyfle cyfartal; rydym yn trysori amrywiaeth.

Mae ein hymgynghorwyr ymroddedig yn paru pobl sy’n chwilio am leoliadau gyda chyfleoedd addas.

Rydym yn cynnig contractau byrdymor sy’n rhoi cyfle i ymgeiswyr ennill profiad amhrisiadwy wrth weithio i Awdurdod Lleol mawr sy’n edrych i’r dyfodol.

 

Gall cyfleoedd gynnwys:

• Gwasanaethau Cwsmeriaid / Canolfan Alwadau
• Gweithwyr Gofal Cartref
• Swyddog Cynghori dan Hyfforddiant (er enghraifft, adrannau i Mewn i Waith, Cyngor Ariannol a Thai)
• Glanhawyr
• Rheoli Projectau
• Swyddogion Hyb

Rydym yn cynnig llawer o swyddi lefel mynediad. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch lleoliad delfrydol er mwyn adeiladu sgiliau a phrofiad, os ydych yn gadael yr ysgol neu’n ddi-waith yn y tymor hir.

Mewn rhai achosion gallai lleoliadau dros dro arwain at swyddi parhaol i ymgeiswyr sydd wedi ennill profiad rhagorol, er na ellir gwarantu hyn. Mae natur dros dro’r contractau yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i gael cynnig ar nifer o rolau ac ennill ystod eang o brofiadau ar draws y gwahanol adrannau yn y Cyngor.

Ein nod yw cynnig cyfleoedd o’r radd flaenaf i bawb; o’r rhai sy’n chwilio am eu swydd gyntaf i’r rhai sy’n ceisio ennill sgiliau newydd neu hyd yn oed y rhai sydd am newid o’r drefn arferol! Bydd ein lleoliadau yn cynnig profiad a gwybodaeth i helpu ymgeiswyr i bontio i gyflogaeth gynaliadwy mewn sector sy’n cyd-fynd â’u dyheadau.

 

Gweithio i niGweithio yng NghaerdyddSut i gofrestru